1 Kings 22
Jehosaffat ac Ahab
(2 Cronicl 18:2-8) 1Aeth tair blynedd heibio heb i Israel a Syria fynd i ryfel yn erbyn ei gilydd. 2Yn ystod y drydedd flwyddyn aeth Jehosaffat, brenin Jwda, i ymweld â brenin Israel. 3Tra roedd e yno, dyma frenin Israel yn dweud wrth ei swyddogion, “Dych chi'n gwybod yn iawn mai ni sydd piau Ramoth-gilead, ond dŷn ni wedi gwneud dim i'w chymryd yn ôl oddi ar frenin Syria.” 4Yna dyma fe'n gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” A dyma Jehosaffat yn ei ateb, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di!” 5Ond yna dyma Jehosaffat yn ychwanegu, “Ond gad i ni'n gyntaf holi beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud.” 6Felly dyma frenin Israel yn casglu'r proffwydi at ei gilydd – roedd tua pedwar cant ohonyn nhw. A dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma nhw'n ateb, “Dos! Bydd y Meistr yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin!” 7Ond dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna ddim un o broffwydi'r Arglwydd yma, i ni ofyn iddo fe hefyd?” 8A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holi'r Arglwydd trwyddo. Ond dw i'n ei gasáu e, achos dydy e byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.” “Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat. 9Felly dyma frenin Israel yn galw swyddog draw a dweud wrtho, “Brysia! Tyrd â Michea fab Imla yma.”Proffwydoliaeth Michea
(2 Cronicl 18:9-27) 10Roedd brenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar orseddau yn y sgwâr wrth y giât i ddinas Samaria. O'u blaenau roedd yr holl broffwydi wrthi'n proffwydo. 11Dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn. A dyma fe'n cyhoeddi “Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: ‘Byddi di'n cornio'r Syriaid gyda'r rhain, ac yn eu difa nhw.’” 12Ac roedd y proffwydi eraill i gyd yn dweud yr un fath. “Dos i ymosod ar Ramoth-gilead. Byddi'n ennill y frwydr! Mae'r Arglwydd yn mynd i roi buddugoliaeth i ti.” 13Dyma'r un oedd wedi mynd i nôl Michea yn dweud wrtho, “Gwranda, mae'r proffwydi i gyd yn cytuno fod y brenin yn mynd i lwyddo. Dywed di'r un peth, a proffwyda lwyddiant iddo.” 14Ond dyma Michea'n ei ateb, “Mor sicr â bod yr Arglwydd yn fyw, fydda i ond yn dweud beth fydd yr Arglwydd yn ei ddweud wrtho i.” 15Pan ddaeth e at y brenin dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Michea, ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma fe'n ateb, “Dos di! Byddi'n llwyddo. Bydd yr Arglwydd yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin.” 16Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Faint o weithiau ydw i wedi gwneud i ti addo o flaen yr Arglwydd y byddi'n dweud dim byd ond y gwir wrtho i?” 17A dyma Michea'n dweud, “Gwelais Israel gyfan ar wasgar dros y bryniau,fel defaid heb fugail.
A dyma'r Arglwydd yn dweud,
‘Does ganddyn nhw ddim meistri.
Dylen nhw i gyd fynd adre'n dawel.’”
18Dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Wnes i ddim dweud wrthot ti? Dydy hwn byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg.” 19A dyma Michea'n dweud eto, “Felly, gwrando ar neges yr Arglwydd. Gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orsedd, a'i fyddin o angylion yn sefyll bob ochr iddo. 20A dyma'r Arglwydd yn gofyn, ‘Pwy sy'n gallu twyllo Ahab, a gwneud iddo ymosod ar Ramoth-gilead a cael ei ladd yno?’ Ac roedd pawb yn cynnig syniadau gwahanol. 21Ond yna dyma ysbryd yn dod a sefyll o flaen yr Arglwydd, a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo fe.’ “A dyma'r Arglwydd yn gofyn iddo, ‘Sut?’ 22“‘Gwna i fynd allan fel ysbryd celwyddog a siarad drwy ei broffwydi e,’ meddai. “A dyma'r Arglwydd yn dweud, ‘Dos i wneud hynny. Byddi di'n llwyddo i'w dwyllo.’ 23“Felly, wyt ti'n gweld? Mae'r Arglwydd wedi gwneud i dy broffwydi di i gyd ddweud celwydd. Mae'r Arglwydd am wneud drwg i ti.” 24Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn camu ymlaen a rhoi dyrnod i Michea ar ei ên, a gofyn, “Sut wnaeth Ysbryd yr Arglwydd fy ngadael i a dechrau siarad â ti?” 25A dyma Michea'n ateb, “Cei weld ar y diwrnod hwnnw pan fyddi di'n chwilio am ystafell o'r golwg yn rhywle i guddio ynddi!” 26Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Cymerwch Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab. 27Dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r brenin yn dweud, “Cadwch hwn yn y carchar, a rhoi dim byd ond ychydig fara a dŵr iddo nes bydda i wedi dod yn ôl yn saff.”’” 28A dyma Michea'n dweud, “Os ddoi di yn ôl yn saff, dydy'r Arglwydd ddim wedi siarad trwof fi.” A dyma fe'n dweud wrth y bobl oedd yno, “Cofiwch chi beth ddywedais i!”
Ahab yn cael ei ladd yn y frwydr
(2 Cronicl 18:28-34) 29Dyma frenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn mynd i ymosod ar Ramoth-gilead. 30A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Dw i yn mynd i wisgo dillad gwahanol i fynd i ryfel, ond gwisga di dy ddillad brenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad a mynd i'r frwydr. 31Roedd brenin Syria wedi rhoi gorchymyn i'r tri deg dau capten oedd ganddo ar ei gerbydau, “Peidiwch poeni ymladd gyda neb, yn filwyr cyffredin na swyddogion, dim ond gyda brenin Israel.” 32Pan welodd y capteiniaid Jehosaffat dyma nhw'n dweud, “Mae'n rhaid mai fe ydy brenin Israel!” Felly dyma nhw'n troi i fynd ar ei ôl. Ond wrth i Jehosaffat weiddi 33dyma nhw'n gweld mai nid brenin Israel oedd e, a dyma nhw'n gadael llonydd iddo. 34Yna dyma rhyw filwr yn digwydd saethu â'i fwa ar hap a taro brenin Israel rhwng dau ddarn o'i arfwisg. A dyma'r brenin yn dweud wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro yn ôl! Dos â fi allan o'r frwydr. Dw i wedi cael fy anafu!” 35Aeth y frwydr yn ei blaen drwy'r dydd. Roedd y brenin Ahab yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylio'r Syriaid. Yna gyda'r nos dyma fe'n marw. Roedd y gwaed o'i anaf wedi rhedeg dros lawr y cerbyd. 36Wrth i'r haul fachlud dyma waedd yn lledu drwy rengoedd y fyddin, “Mae ar ben! Pawb am adre i'w dref a'i ardal ei hun.” 37Roedd y brenin wedi marw, a dyma nhw'n mynd ag e i Samaria, a'i gladdu yno. 38Dyma nhw'n golchi'r cerbyd wrth bwll Samaria (lle roedd puteiniaid yn arfer ymolchi). A daeth cŵn yno i lyfu'r gwaed, yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud. 39Mae gweddill hanes Ahab, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni (hanes y palas ifori a'r holl drefi wnaeth e adeiladu) i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. 40Bu farw Ahab, a daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le.Jehosaffat, brenin Jwda
(2 Cronicl 20:31—21:1) 41Daeth Jehosaffat mab Asa yn frenin ar Jwda pan oedd Ahab wedi bod yn frenin Israel ers pedair blynedd. 42Roedd Jehosaffat yn dri deg pum mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam. 43Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat beth oedd yn plesio'r Arglwydd. Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. 44Ac roedd Jehosaffat wedi gwneud cytundeb heddwch gyda brenin Israel. 45Mae gweddill hanes Jehosaffat, y cwbl wnaeth e lwyddo i'w wneud a'r rhyfeloedd wnaeth e eu hymladd, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. 46Roedd e hefyd wedi gyrru allan o'r wlad weddill y puteiniaid teml oedd yn dal yno yng nghyfnod ei dad Asa. 47Doedd gan Edom ddim brenin ar y pryd, dim ond rhaglaw. 48Adeiladodd Jehosaffat longau masnach mawr ▼▼22:48 llongau masnach mawr Hebraeg, “Llongau Tarshish”, sef porthladd yn Sbaen.
i fynd i Offir am aur; ond wnaethon nhw erioed hwylio am eu bod wedi eu dryllio yn y porthladd yn Etsion-geber. 49Roedd Ahaseia, mab Ahab, wedi gofyn i Jehosaffat, “Gad i'n gweision ni forio gyda'i gilydd ar y llongau.” Ond roedd Jehosaffat wedi gwrthod. 50Pan fuodd Jehosaffat farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le. 51Roedd Jehosaffat wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Ahaseia mab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria. Bu'n frenin ar Israel am ddwy flynedd. 52Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac ymddwyn fel ei dad a'i fam, ac fel Jeroboam fab Nebat oedd wedi achosi i bobl Israel bechu. 53Roedd yn addoli Baal ac yn ymgrymu iddo. Roedd yn gwylltio'r Arglwydd, Duw Israel, yn union fel gwnaeth ei dad.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024