1 Kings 2
Cyngor Dafydd i Solomon
1Pan oedd Dafydd ar fin marw, dyma fe'n rhoi siars i'w fab Solomon. 2“Fydda i ddim byw yn hir iawn eto,” meddai. “Rhaid i ti fod yn gryf a dangos dy fod yn ddyn! 3Gwna beth mae'r Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gen ti, a byw fel mae e eisiau. Rhaid i ti gadw ei reolau, ei orchmynion, y canllawiau a'r gofynion i gyd sydd yng Nghyfraith Moses. Fel yna byddi di'n llwyddo beth bynnag wnei di a beth bynnag fydd raid i ti ei wynebu. 4A bydd yr Arglwydd wedi cadw ei addewid i mi: ‘Os bydd dy ddisgynyddion di yn gwylio eu ffyrdd ac yn gwneud eu gorau glas i fyw'n ffyddlon i mi, yna bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth.’ 5“Ti'n gwybod yn iawn beth wnaeth Joab, mab Serwia, i mi. Sôn ydw i am y ffordd wnaeth e ladd Abner fab Ner ac Amasa fab Jether ▼▼2:5 Abner fab Ner – gw. 2 Samuel 3:27; Amasa fab Jether – gw. 2 Samuel 20:10
, dau o arweinwyr byddin Israel. Lladdodd nhw mewn gwaed oer, a hynny mewn cyfnod o heddwch. Gadawodd staen gwaedlyd rhyfel ar y belt am ei ganol a'r sandalau oedd ar ei draed. 6Gwna di fel rwyt ti'n gweld orau, ond paid gadael iddo fyw i farw'n dawel yn ei henaint. 7“Ond bydd yn garedig at feibion Barsilai o Gilead. Gad iddyn nhw fwyta wrth dy fwrdd. Roedden nhw wedi gofalu amdana i pan oedd raid i mi ffoi oddi wrth dy frawd Absalom. 8“A cofia am Shimei fab Gera o Bachwrîm yn Benjamin. Roedd e wedi fy rhegi a'm melltithio i pan oeddwn i'n ar fy ffordd i Machanaîm. Ond wedyn daeth i lawr at yr Iorddonen i'm cyfarfod i pan oeddwn ar fy ffordd yn ôl, a dyma fi'n addo iddo ar fy llw, ‘Wna i ddim dy ladd di.’ b 9Ond nawr, paid ti â'i adael heb ei gosbi. Ti'n ddyn doeth ac yn gwybod beth i'w wneud. Gad iddo ddioddef marwolaeth waedlyd.” Marwolaeth Dafydd
10Pan fuodd Dafydd farw cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd. 11Roedd wedi bod yn frenin ar Israel am bedwar deg o flynyddoedd. Bu'n teyrnasu yn Hebron am saith mlynedd ac yna yn Jerwsalem ▼▼2:11 Jerwsalem Hebraeg, “dinas Dafydd”.
am dri deg tair o flynyddoedd. 12Yna dyma Solomon yn dod yn frenin yn lle ei dad, a gwneud y deyrnas yn ddiogel ac yn gryf. Adoneia'n cael ei ladd
13Dyma Adoneia, mab Haggith, yn mynd i weld Bathseba, mam Solomon. “Wyt ti'n dod yma'n heddychlon?” gofynnodd iddo. “Ydw”, meddai, 14“Mae gen i rywbeth i'w ofyn i ti.” “Beth ydy hwnnw?” meddai hithau. 15A dyma fe'n dweud, “Ti'n gwybod mai fi ddylai fod wedi bod yn frenin. Dyna oedd pobl Israel i gyd yn ei ddisgwyl. Ond fy mrawd gafodd deyrnasu, a'r Arglwydd wnaeth drefnu hynny. 16Mae gen i un peth dw eisiau ofyn gen ti. Paid gwrthod fi.” A dyma hi'n dweud, “Dos yn dy flaen.” 17“Wnei di ofyn i'r Brenin Solomon roi Abisag o Shwnem yn wraig i mi. Fydd e ddim dy wrthod di.” 18“Iawn”, meddai Bathseba. “Gwna i ofyn i'r brenin ar dy ran di.” 19Felly, dyma Bathseba yn mynd at y Brenin Solomon i ofyn iddo ar ran Adoneia. Dyma'r brenin yn codi i'w chyfarch ac yn ymgrymu o'i blaen hi cyn eistedd yn ôl ar ei orsedd. Yna dyma fe'n galw am gadair i'w fam, a dyma hi'n eistedd ar ei ochr dde. 20A dyma hi'n dweud wrtho, “Mae gen i rywbeth bach i'w ofyn gen ti. Paid gwrthod fi.” A dyma fe'n ateb, “Gofyn di mam. Wna i ddim dy wrthod di.” 21A dyma hi'n dweud, “Rho Abisag, y ferch o Shwnem, yn wraig i dy frawd Adoneia.” 22A dyma'r Brenin Solomon yn ateb ei fam, “Pam mai dim ond yn gofyn am Abisag o Shwnem wyt ti i Adoneia? Waeth i ti ofyn am y deyrnas iddo hefyd, achos mae e'n hŷn na fi, ac mae Abiathar yr offeiriad a Joab, mab Serwia, yn ei gefnogi e.” 23A dyma'r Brenin Solomon yn tyngu llw i'r Arglwydd, “Boed i Dduw ddial arna i os fydd Adoneia yn talu gyda'i fywyd am ofyn y fath beth! 24Mor sicr â bod yr Arglwydd yn fyw (yr un sydd wedi rhoi gorsedd fy nhad Dafydd i mi, a sicrhau llinach i mi fel gwnaeth e addo), bydd Adoneia yn marw heddiw!” 25Yna dyma'r Brenin Solomon yn anfon Benaia fab Jehoiada ar ei ôl. A dyma hwnnw'n ymosod ar Adoneia a'i ladd. 26Wedyn dyma'r brenin yn dweud wrth Abiathar yr offeiriad, “Dos adre i Anathoth, i dy fro dy hun. Ti'n haeddu marw ond wna i ddim dy ladd di, dim ond am dy fod wedi cario Arch yr Arglwydd, ein Meistr, o flaen Dafydd fy nhad, ac wedi dioddef gydag e pan oedd pethau'n anodd.” 27Felly drwy ddiarddel Abiathar o fod yn offeiriad i'r Arglwydd, dyma Solomon yn cyflawni beth ddwedodd yr Arglwydd yn Seilo am ddisgynyddion Eli. dJoab yn cael ei ladd
28Pan glywodd Joab beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n ffoi i babell yr Arglwydd a gafael yng nghyrn yr allor. (Roedd Joab wedi cefnogi Adoneia, er doedd e ddim wedi cefnogi Absalom. e) 29Pan glywodd y Brenin Solomon fod Joab wedi ffoi at yr allor ym mhabell yr Arglwydd, dyma fe'n dweud wrth Benaia fab Jehoiada i fynd yno a taro Joab. 30Pan ddaeth Benaia at babell yr Arglwydd, dyma fe'n galw ar Joab, “Mae'r brenin yn gorchymyn i ti ddod allan.” Ond dyma Joab yn ateb, “Na! Dw i am farw yma!” Felly dyma Benaia'n mynd yn ôl at y brenin a dweud wrtho beth oedd Joab wedi ei ddweud. 31A dyma'r brenin yn dweud, “Gwna fel dwedodd e! Lladd e yno, a'i gladdu. Byddi'n clirio fi a fy nheulu o'r bai am yr holl waed wnaeth Joab ei dywallt. 32Mae'r Arglwydd yn talu'n ôl iddo am ladd dau ddyn llawer gwell na fe'i hun – Abner fab Ner, capten byddin Israel, ac Amasa fab Jether, capten byddin Jwda – a gwneud hynny heb yn wybod i'm tad Dafydd. 33Bydd Joab a'i deulu yn euog am byth am eu lladd nhw. Ond bydd yr Arglwydd yn rhoi heddwch a llwyddiant i Dafydd a'i ddisgynyddion, ei deulu a'i deyrnas am byth.” 34Felly dyma Benaia fab Jehoiada yn mynd ac ymosod ar Joab a'i ladd. Cafodd ei gladdu yn ei gartref yng nghefn gwlad. 35Yna dyma'r brenin yn penodi Benaia fab Jehoiada yn gapten ar y fyddin yn lle Joab, a Sadoc yr offeiriad i gymryd swydd Abiathar. 36Wedyn dyma'r brenin yn anfon am Shimei, a dweud wrtho, “Adeilada dŷ i ti dy hun yn Jerwsalem. Dwyt ti ddim i symud oddi yma. 37Os gwnei di adael a hyd yn oed croesi Nant Cidron byddi'n cael dy ladd. Dy fai di a neb arall fydd hynny.” 38A dyma Shimei yn dweud “Iawn, syr, fy mrenin, gwna i fel ti'n dweud.” A buodd Shimei yn byw yn Jerwsalem am amser hir iawn. 39Ond ar ôl tair blynedd dyma ddau o weision Shimei yn rhedeg i ffwrdd at Achis fab Maacha, brenin Gath. A dyma rywun yn dweud wrth Shimei, “Mae dy weision di yn Gath”. 40Felly dyma Shimei yn rhoi cyfrwy ar ei asyn a mynd i Gath i chwilio am ei weision. Yna dyma fe'n dod â nhw'n ôl. 41Pan glywodd Solomon fod Shimei wedi bod i Gath ac yn ôl, 42dyma fe'n anfon am Shimei a dweud wrtho, “Wyt ti'n cofio i mi wneud i ti dyngu llw o flaen yr Arglwydd a dy rybuddio di i beidio gadael y ddinas a mynd allan oddi yma o gwbl, neu y byddet ti'n siŵr o farw? Dwedaist ti, ‘Iawn, dw i'n cytuno i hynny.’ 43Felly, pam wyt ti heb gadw dy addewid i'r Arglwydd, ac ufuddhau i'r gorchymyn wnes i roi i ti?” 44Aeth y brenin yn ei flaen i ddweud wrth Shimei, “Ti'n gwybod yn iawn faint o ddrwg wnest ti i Dafydd, fy nhad. Wel mae'r Arglwydd am dy gosbi am dy ddrygioni. 45Ond bydd yn fy mendithio i, y Brenin Solomon, ac yn gwneud yn siŵr fod teyrnas Dafydd yn aros am byth.” 46Yna dyma'r brenin yn rhoi gorchymyn i Benaia fab Jehoiada, a dyma fe'n ymosod ar Shimei a'i ladd. Felly roedd Solomon wedi gwneud yn siŵr fod ei afael e ar y deyrnas yn gwbl ddiogel.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024