1 Kings 18
Elias yn cyfarfod Obadeia, gwas y brenin Ahab
1Ar ôl amser hir, yn ystod y drydedd flwyddyn o sychder, dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Elias. “Dos, a dangos dy hun i Ahab. Dw i'n mynd i anfon glaw ar y tir.” 2Felly dyma Elias yn mynd i weld Ahab. Roedd y newyn yn ddrwg iawn yn Samaria ar y pryd. 3Felly dyma Ahab yn galw Obadeia, y swyddog oedd yn gyfrifol am redeg y palas. (Roedd Obadeia yn ddyn oedd yn addoli'r Arglwydd yn ffyddlon. 4Pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r Arglwydd, roedd Obadeia wedi cymryd cant o broffwydi a'u cuddio nhw fesul pum deg mewn dwy ogof. Ac roedd yn rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed.) 5Dyma Ahab yn dweud wrth Obadeia, “Rhaid i ni fynd trwy'r wlad i gyd, at bob ffynnon a nant. Falle y down ni o hyd i ychydig borfa i gadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, yn lle bod rhaid i ni golli pob un anifail.” 6Dyma nhw'n rhannu'r wlad gyfan rhyngddyn nhw. A dyma Ahab yn mynd i un cyfeiriad ac Obadeia yn mynd y ffordd arall. 7Wrth i Obadeia fynd ar ei ffordd dyma Elias yn dod i'w gyfarfod. Dyma Obadeia'n nabod Elias, a dyma fe'n plygu ar ei liniau o'i flaen a dweud, “Ai ti ydy e go iawn, fy meistr, Elias?” 8“Ie, fi ydy e,” meddai Elias. “Dos i ddweud wrth dy feistr fy mod i yn ôl.” 9Ond dyma Obadeia'n dweud, “Beth dw i wedi'i wneud o'i le? Wyt ti eisiau i Ahab fy lladd i? 10Mor sicr â bod yr Arglwydd dy Dduw yn fyw, mae fy meistr wedi anfon i bob gwlad a theyrnas i chwilio amdanat ti! Os dŷn nhw'n dweud dy fod ti ddim yno, mae'n gwneud iddyn dyngu llw eu bod nhw heb ddod o hyd i ti. 11A dyma ti'n dweud wrtho i, ‘Dos i ddweud wrth dy feistr, “Mae Elias yn ôl”!’ 12Y funud bydda i'n dy adael di, bydd Ysbryd yr Arglwydd yn dy gario di i ffwrdd i rywle, a fydd gen i ddim syniad i ble. Os gwna i ddweud wrth Ahab fy mod wedi dy weld di, ac yntau wedyn yn methu dod o hyd i ti, bydd e'n fy lladd i! Dw i wedi addoli'r Arglwydd yn ffyddlon ers pan oeddwn i'n fachgen. 13Oes neb wedi dweud wrthot ti beth wnes i pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r Arglwydd? Gwnes i guddio cant o'r broffwydi, fesul pum deg, mewn dwy ogof, a rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed. 14A nawr, dyma ti'n gofyn i mi fynd i ddweud wrth Ahab ‘Mae Elias yn ôl’! Bydd e'n fy lladd i!” 15Ond dyma Elias yn addo iddo, “Mor sicr â bod yr Arglwydd holl-bwerus yn fyw (y Duw dw i'n ei wasanaethu), bydda i'n cyfarfod Ahab heddiw.”Elias yn cyfarfod y brenin Ahab
16Felly dyma Obadeia'n mynd i ddweud wrth Ahab. A dyma Ahab yn dod i gyfarfod Elias. 17Pan welodd Ahab Elias dyma fe'n dweud, “Ai ti ydy e go iawn – yr un sy'n creu helynt i Israel?” 18Dyma Elias yn ateb, “Nid fi sydd wedi creu helynt i Israel. Ti a theulu dy dad sydd wedi gwrthod gwneud beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud, a ti wedi addoli delwau o Baal! 19“Dw i eisiau i ti gasglu pobl Israel i gyd at ei gilydd wrth fynydd Carmel. Tyrd â'r holl broffwydi mae Jesebel yn eu cynnal yno – pedwar cant pum deg o broffwydi Baal a pedwar cant o broffwydi'r dduwies Ashera.” 20Felly dyma Ahab yn anfon neges at holl bobl Israel, a dod â'r proffwydi i gyd at ei gilydd i fynydd Carmel.Elias a proffwydi Baal ar fynydd Carmel
21Dyma Elias yn sefyll o flaen y bobl i gyd a gofyn iddyn nhw, “Am faint mwy dych chi'n mynd i eistedd ar y ffens? Os mai'r Arglwydd ydy'r Duw go iawn, dilynwch e, ond os mai Baal ydy e, dilynwch hwnnw!” Ddwedodd neb yr un gair. 22Felly dyma Elias yn dweud wrth y bobl, “Fi ydy'r unig un sydd ar ôl o broffwydi'r Arglwydd, ond mae yna bedwar cant pum deg o broffwydi Baal yma. 23Dewch â dau darw ifanc yma. Cân nhw ddewis un tarw, yna ei dorri'n ddarnau, a'i osod ar y coed. Ond dŷn nhw ddim i gynnau tân oddi tano. Gwna i yr un fath gyda'r tarw arall – ei osod ar y coed, ond dim cynnau tân oddi tano. 24Galwch chi ar eich duw chi, a gwna i alw ar yr Arglwydd. Bydd y duw sy'n anfon tân yn dangos mai fe ydy'r Duw go iawn.” A dyma'r bobl yn ymateb, “Syniad da! Iawn!” 25Yna dyma Elias yn dweud wrth broffwydi Baal, “Ewch chi gyntaf. Mae yna lawer ohonoch chi, felly dewiswch darw, a'i baratoi. Yna galwch ar eich duw, ond peidiwch cynnau tân.” 26Felly dyma nhw'n cymryd y tarw roedden nhw wedi ei gael, a'i baratoi, a'i osod ar yr allor. A dyma nhw'n galw ar Baal drwy'r bore, nes oedd hi'n ganol dydd, “Baal, ateb ni!” Ond ddigwyddodd dim byd – dim siw na miw. Roedden nhw'n dawnsio'n wyllt o gwmpas yr allor roedden nhw wedi ei gwneud. 27Yna tua canol dydd dyma Elias yn dechrau gwneud hwyl am eu pennau nhw. “Rhaid i chi weiddi'n uwch! Dewch, duw ydy e! Falle ei fod e'n myfyrio, neu wedi mynd i'r tŷ bach, neu wedi mynd ar daith i rywle. Neu falle ei fod e'n cysgu, a bod angen ei ddeffro!” 28A dyma nhw'n gweiddi'n uwch, a dechrau torri eu hunain gyda chyllyll a gwaywffyn (dyna oedd y ddefod arferol). Roedd eu cyrff yn waed i gyd. 29Buon nhw wrthi'n proffwydo'n wallgof drwy'r p'nawn nes ei bod yn amser offrymu aberth yr hwyr. Ond doedd dim byd yn digwydd, dim siw na miw – neb yn cymryd unrhyw sylw. 30Yna dyma Elias yn galw'r bobl draw ato. Ar ôl iddyn nhw gasglu o'i gwmpas, dyma Elias yn trwsio allor yr Arglwydd oedd wedi cael ei dryllio. 31Cymerodd un deg dwy o gerrig – un ar gyfer pob un o lwythau Jacob (yr un roedd yr Arglwydd wedi rhoi'r enw Israel iddo). 32A dyma fe'n defnyddio'r cerrig i godi allor i'r Arglwydd. Yna dyma fe'n cloddio ffos eithaf dwfn ▼▼18:32 eithaf dwfn Hebraeg, “digon dwfn i ddal dau fesur o had”
o gwmpas yr allor. 33Wedyn gosododd y coed ar yr allor, torri'r tarw yn ddarnau a'i roi ar y coed. 34Yna dyma fe'n dweud, “Ewch i lenwi pedwar jar mawr gyda dŵr, a'i dywallt ar yr offrwm ac ar y coed.” Ar ôl iddyn nhw wneud hynny, dyma fe'n dweud, “Gwnewch yr un peth eto,” felly dyma nhw'n gwneud hynny. “Ac eto,” meddai, a dyma nhw'n gwneud y drydedd waith. 35Roedd yr allor yn socian, a'r dŵr wedi llenwi'r ffos o'i chwmpas. 36Pan ddaeth hi'n amser i offrymu aberth yr hwyr, dyma Elias yn camu at yr allor, a dweud, “O Arglwydd, Duw Abraham, Isaac ac Israel, gad i bawb wybod heddiw mai ti ydy Duw Israel, ac mai dy was di ydw i. Dangos fy mod i'n gwneud hyn am mai ti sydd wedi dweud wrtho i. 37Ateb fi, O Arglwydd, ateb fi, er mwyn i'r bobl yma wybod mai ti ydy'r Duw go iawn, a dy fod ti'n eu troi nhw'n ôl atat ti.” 38Yn sydyn dyma dân yn disgyn oddi wrth yr Arglwydd a llosgi'r offrwm, y coed, y cerrig a'r pridd, a hyd yn oed sychu'r dŵr oedd yn y ffos. 39Pan welodd y bobl beth ddigwyddodd, dyma nhw'n syrthio ar eu gliniau a'u hwynebau ar lawr, a gweiddi, “Yr Arglwydd ydy'r Duw go iawn! Yr Arglwydd ydy'r Duw go iawn!” 40Yna dyma Elias yn dweud, “Daliwch broffwydi Baal! Peidiwch gadael i'r un ohonyn nhw ddianc!” Ar ôl iddyn nhw gael eu dal, dyma Elias yn mynd â nhw i lawr at Afon Cison a'u lladd nhw i gyd yno. Elias yn gweddïo am law
41Yna dyma Elias yn dweud wrth Ahab, “Dos i fwyta ac yfed, achos mae yna sŵn glaw trwm yn dod.” 42Felly dyma Ahab yn mynd i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i gopa mynydd Carmel. Plygodd i lawr i weddïo, â'i wyneb ar lawr rhwng ei liniau. 43A dyma fe'n dweud wrth ei was, “Dos i fyny i edrych allan dros y môr.” Dyma'r gwas yn mynd i edrych, a dweud “Does dim byd yna”. Saith gwaith roedd rhaid i Elias ddweud, “Dos eto”. 44Yna'r seithfed tro dyma'r gwas yn dweud, “Mae yna gwmwl bach, dim mwy na dwrn dyn, yn codi o'r môr.” A dyma Elias yn dweud, “Brysia i ddweud wrth Ahab, ‘Dringa i dy gerbyd a dos adre, rhag i ti gael dy ddal yn y storm.’” 45Cyn pen dim roedd cymylau duon yn yr awyr, gwynt yn chwythu a glaw trwm. Roedd Ahab yn gyrru i fynd yn ôl i Jesreel. 46A dyma'r Arglwydd yn rhoi nerth goruwchnaturiol i Elias. Dyma fe'n rhwymo'i wisg am ei ganol a rhedeg o flaen cerbyd Ahab yr holl ffordd i Jesreel.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024