‏ 1 Corinthians 6

Credinwyr yn mynd i Gyfraith

1Pan mae gynnoch chi achos yn erbyn Cristion arall, sut allwch chi feiddio mynd i lys barn? Rhannwch y peth gyda'ch cyd-Gristnogion, iddyn nhw ddelio â'r mater. 2Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “pobl Dduw yn mynd i farnu'r byd”? Felly os byddwch chi'n barnu'r byd, ydych chi ddim yn gallu delio gyda rhyw fân achosion fel hyn? 3Rhaid i chi gofio y byddwn ni'n barnu angylion bryd hynny! Felly does bosib nad ydyn ni'n gallu setlo problemau pob dydd ar y ddaear yma! 4Ond na, mae rhyw achos yn codi a dych chi'n gofyn i bobl y tu allan i'r eglwys ddelio â'r mater! 5Cywilydd arnoch chi! Oes neb yn eich plith chi sy'n ddigon doeth i ddelio â'r math yma o beth? 6Ydy'n iawn i Gristion erlyn Cristion arall? – a hynny o flaen pobl sydd ddim yn credu?

7Mae achosion llys fel yma rhwng Cristnogion â'i gilydd yn dangos methiant llwyr. Byddai'n well petaech chi'n diodde'r cam, ac yn gadael i'r person arall eich twyllo chi! 8Ond na, mae'n well gynnoch chi dwyllo a gwneud cam â phobl eraill – hyd yn oed eich cyd-Gristnogion!

9Ydych chi ddim yn sylweddoli bod pobl ddrwg ddim yn cael perthyn i deyrnasiad Duw? Peidiwch twyllo'ch hunain: Fydd dim lle yn ei deyrnas i bobl sy'n anfoesol yn rhywiol, yn addoli eilun-dduwiau, neu'n godinebu, i buteinwyr gwrywgydiol, gwrywgydwyr gweithredol, 10lladron, pobl hunanol, meddwon, nag i neb sy'n enllibio pobl eraill ac yn eu twyllo nhw. 11A dyna sut bobl oedd rhai ohonoch chi ar un adeg, ond dych chi wedi cael eich glanhau a'ch gwneud yn bur. Mae gynnoch berthynas iawn gyda Duw o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist a'r Ysbryd Glân wedi ei wneud drosoch chi.

Anfoesoldeb Rhywiol

12Ond, “Mae gen i ryddid i wneud beth dw i eisiau” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er mod i'n rhydd i wneud beth dw i eisiau, fydd dim byd yn cael bod yn feistr arna i. 13“Mae'n naturiol,” meddech chi wedyn, “fel bwyd i'r stumog a'r stumog i fwyd.” Falle wir, ond bydd Duw yn dinistrio'r ddau yn y diwedd. Chafodd y corff mo'i greu i fod yn anfoesol yn rhywiol – cafodd ei wneud i wasanaethu'r Arglwydd. Ac mae'r corff yn bwysig i'r Arglwydd! 14Cododd Duw gorff yr Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, a bydd yn defnyddio'i nerth i godi ein cyrff ninnau yr un fath. 15Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich cyrff chi yn rhannau o gorff y Meseia ei hun? Ydw i'n mynd i ddefnyddio fy nghorff (sy'n perthyn i'r Meseia) i gael rhyw gyda phutain? Na, byth! 16Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn yn clymu ei hun gyda'r butain wrth gael rhyw gyda hi? “Bydd y ddau yn dod yn un,” a meddai'r ysgrifau sanctaidd. 17Ond mae'r sawl sy'n clymu ei hun i'r Arglwydd yn rhannu'r un Ysbryd â'r Arglwydd.

18Gwnewch bopeth allwch chi i osgoi anfoesoldeb rhywiol. Does dim un pechod arall sy'n effeithio ar y corff yr un fath. Mae'r person sy'n pechu'n rhywiol yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. 19Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich corff chi'n deml i'r Ysbryd Glân? Mae'r Ysbryd yn byw ynoch chi – mae wedi ei roi'n rhodd i chi gan Dduw. Dim chi biau eich bywyd; 20mae pris wedi ei dalu amdanoch chi. Felly defnyddiwch eich cyrff i anrhydeddu Duw.

Copyright information for CYM