1 Chronicles 25
Trefnu y Cerddorion
1Dyma Dafydd a swyddogion y fyddin yn dewis rhai o ddisgynyddion Asaff, Heman a Iedwthwn i broffwydo i gyfeiliant telynau, nablau a symbalau. Dyma'r dynion gafodd y gwaith yma: 2Meibion Asaff: Saccwr, Joseff, Nethaneia, ac Asarela, dan arweiniad eu tad Asaff, oedd yn proffwydo pan oedd y brenin yn dweud.3Meibion Iedwthwn: Gedaleia, Seri, Ishaeia, Chashafeia, a Matitheia – chwech ▼
▼25:3 Pump enw sydd yn y rhestr. Mae un llawysgrif Hebraeg, a'r LXX yn ychwanegu'r enw Shimei ar ôl Ishaia (gw. adn.17).
, dan arweiniad eu tad Iedwthwn. Roedd yn proffwydo wrth ganu'r delyn, yn diolch ac yn moli'r Arglwydd.4Meibion Heman: Bwcïa, Mataneia, Wssiel, Shefwel, Ierimoth, Chananeia, Chanani, Eliatha, Gidalti, Romamti-Eser, Ioshbecashâ, Maloti, Hothir, a Machsïot. 5Roedd y rhain i gyd yn feibion i Heman, proffwyd y brenin. Roedd Duw wedi addo'r meibion yma iddo i'w wneud yn ddyn oedd yn uchel ei barch. Roedd Duw wedi rhoi un deg pedwar o feibion a thair merch iddo.
6Roedd tadau y rhain yn eu harolygu. Cerddorion teml yr Arglwydd oedden nhw, yn canu symbalau, nablau a thelynau yn yr addoliad. Y brenin ei hun oedd yn arolygu Asaff, Iedwthwn a Heman. 7Roedd 288 ohonyn nhw yn canu o flaen yr Arglwydd; i gyd yn gerddorion dawnus a phrofiadol. 8Dyma nhw'n defnyddio coelbren i benderfynu pryd roedden nhw ar ddyletswydd. Doedd oedran ddim yn cael ei ystyried, na p'run ai oedden nhw'n athrawon neu'n ddisgyblion.
9A dyma'r drefn y cawson nhw eu dewis:
1. | Joseff o glan Asaff, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 ▼ ▼25:9 ei feibion ac aelodau o'i deulu – 12 Mae'n debyg fod y rhif yma wedi ei adael allan o'r Hebraeg yn ddamweiniol (gw. gweddill y rhestr, sef adn.10-31). Hebddo 276 ydy'r cyfanswm, nid 288 fel mae adn.7 yn dweud. |
2. | Gedaleia, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
3. | Saccwr, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
4. | Itsri ▼ ▼25:11 Itsri Ffurf arall ar yr enw Tseri (adn.3) , ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
5. | Nethaneia, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
6. | Bwcïa, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
7. | Iesarela ▼ ▼25:14 Iesarela Ffurf arall ar yr enw Asarela (adn.2) , ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
8. | Ieshaia, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
9. | Mataneia, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
10. | Shimei, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
11. | Wssiel ▼ ▼25:18 Hebraeg, “Asarel” sy'n ffurf arall ar yr enw Wssiel (gw. 1 Cronicl 25:4). , ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
12. | Chashafeia, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
13. | Shwfa-el, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
14. | Matitheia, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
15. | Ieremoth, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
16. | Chananeia, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
17. | Ioshbecashâ, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
18. | Chanani, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
19. | Maloti, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
20. | Eliatha, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
21. | Hothir, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
22. | Gidalti, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
23. | Machsïot, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
24. | Romamti-Eser, ei feibion ac aelodau o'i deulu | — 12 |
Copyright information for
CYM